John Wesley

John Wesley
Ganwyd17 Mehefin 1703 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Epworth Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mawrth 1791 Edit this on Wikidata
St Luke's Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgweinidog Methodistiaid, dyddiadurwr, athronydd, cyfieithydd, emynydd, cenhadwr, offeiriad, llenor, diwinydd, diddymwr caethwasiaeth Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadIoan, Martin Luther Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl2 Mawrth Edit this on Wikidata
TadSamuel Wesley Edit this on Wikidata
MamSusanna Wesley Edit this on Wikidata
PriodMary Vazeille Edit this on Wikidata
llofnod

Clerigwr ac efengylydd Seisnig oedd John Wesley (17 Mehefin 1703 - 2 Mawrth 1791).

Ganed ef yn Epworth yn Swydd Lincoln yn fab i Samuel Wesley a'i wraig Susanna Annesley. Daeth dan ddylanwad y Morafiaid, a dechreuodd efelychu George Whitefield trwy bregethu yn yr awyr agored. Yn wahanol i Whitefield, nid oedd yn Galfinydd. Ystyrir ef fel sylfaenydd enwad y Methodistiaid Wesleaidd.

Bu John Wesley yn pregethu yng Nghymru nifer o wethiau, ond cyfyngwyd ar ei lwyddiant gan anawsterau iaith. Y Methodistaid Calfinaidd, gan arweiniaid Daniel Rowland a Howell Harris oedd y cryfaf o lawer o’r enwadau Methodistaidd yng Nghymru. Roedd rhywfaint o gydweithrediad rhwng y ddau fudiad, ond roedd gwahaniaethau diwinyddol hefyd, gyda’r Wesleaid yn coleddu Arminiaeth yn hytrach na Chalfiniaeth.

Darlun olew gan artist anhysbys, a dynnwyd tua 1780

Roedd yr emynydd Charles Wesley yn frawd iddo.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in